Ymgynghorydd Busnes y Flwyddyn 2015
Ymgynghorydd Busnes y Flwyddyn, noddir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd
Enillydd: Geoff Barber, Cymdeithas Adeiladu'r Principality
Geoff Barber a Sophie Evans
Roedd y beirniaid yn unfrydol eu barn y dylai Geoff Barber ennill y categori hwn, lle cafwyd cystadlu brwd, am ei waith amhrisiadwy fel aelod bwrdd o Ŵyl Chwedleua Beyond the Border. Daeth yr ŵyl ddwyflynyddol, a gynhelir yng Nghastell Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg, yn elusen annibynnol yn 2011. Roedd sefydlu bwrdd cadarn a gweithgar yn hanfodol ac mae penodiad Geoff drwy C&B Cymru wedi gwneud cyfraniad pendant at y sefydliad.
Mae ei sgiliau busnes mewn meysydd fel llywodraethu a rheoli wedi’u cymhwyso’n ymarferol ac wedi arwain yn uniongyrchol at gynaliadwyedd ariannol gwell yr ŵyl. Mae Geoff wedi’i ryfeddu a’i ysbrydoli gan allu’r sefydliad celfyddydol i “gyflawni gymaint gyda chyn lleied”. Mae'n dweud:
“Mae angerdd Beyond the Border yn heintus ac yn treiddio I agweddau eraill o fy mywyd. Mae’n rhywbeth y gallai pob sefydliad y sector cyhoeddus a phreifat ddysgu un neu ddau o bethau yn ei gylch.”