Beth yw dyngarwch a sut ydw i’n mynd ato?
Gallwn eich helpu i ysgogi dyngarwch – p’un ai sefydliad bach neu fawr ydych chi.
Rhoddi unigol a dyngarwch
Mae dyngarwch yn cyfeirio at bob math o gymorth y mae unigolion yn ei gynnig i’r celfyddydau. Gall amrywio o roi arian mewn blwch rhoddion, aelodaeth cynlluniau cefnogwyr i roddion a chymynroddion sylweddol.
Mae cymhellion dyngarol yn amrywio’n sylweddol yn ôl y math o fecanwaith rhoddi, ond maent i gyd yn rhannu’r gred gyffredinol a sylfaenol y gall unigolion wneud gwahaniaeth mawr i’r celfyddydau trwy eu cefnogi.
Rydym yn amcangyfrif mai ar lefel isel neu ganolig y mae tua 90% o’r dyngarwch a dderbynnir gan sector y celfyddydau a diwylliant. Er i rai mae rhodd fawr unrhyw swm dros £1,000; gwell diffiniad efallai yw rhodd sy’n gwneud cryn wahaniaeth i sefydliad. Dylai sefydliadau diwylliannol gynllunio i ddatblygu dyngarwch ar lefel sy’n briodol iddyn nhw.
Beth gallwn ni ei wneud i chi
Gellir cael hyd i’r holl wybodaeth a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch i ysgogi dyngarwch fan hyn. I’ch helpu i gychwyn ymgyrch ddyngarol, i ddatblygu rhaglen sydd eisoes yn bodoli neu integreiddio dyngarwch yn eich portffolio codi arian mae gennym y gwasanaethau a’r mentrau i chi.
Gwasanaethau i’ch cefnogi
Digwyddiadau hyfforddi
Dysgwch sut i sicrhau dyngarwch
Canllawiau treth
Cyngor ar ffyrdd treth-effeithlon o roi i ddiwylliant
Ymchwil
Dealltwriaeth arloesol gan arbenigwyr ar ddyngarwch
Cyngor wedi’i deilwra
Cymorth wedi’i deilwra gan ein tîm ymgynghori
Enghreifftiau o fywyd go iawn
Dysgwch gan eraill a chael eich ysbrydoli
Rhaglenni i ymwneud â nhw
Medal Tywysog Cymru am Ddyngarwch yn y Celfyddydau
Dathlu’r prif ddyngarwyr mwyaf ysbrydoledig yn y DU