Medal Tywysog Cymru am Ddyngarwch yn y Celfyddydau
Yn 2008 cafodd pump o bobl eu hanrhydeddu gan Fedal Tywysog Cymru am Ddyngarwch yn y Celfyddydau am y tro cyntaf a’i nod yw cydnabod dyngarwyr ysbrydoledig sy’n dal dychymyg y gymdeithas ehangach trwy eu cefnogaeth i’r celfyddydau.
Cydnabyddir y rhai a anrhydeddir, yn y DU neu’n rhyngwladol, am eu cefnogaeth ddyngarol i fywyd diwylliannol cenedlaethol dros gyfnod o amser neu yn sgil rhodd fawr.
Ar 17 Tachwedd 2011, cyflwynodd EUB Tywysog Cymru ei Fedalau am Ddyngarwch yn y Celfyddydau mewn seremoni arbennig yn Nhŷ Clarence. Mae’r Fedal yn dathlu unigolion neilltuol sy’n cefnogi’r celfyddydau yn y DU.
Y rhai a anrhydeddwyd yn 2011
Lloyd Dorfman
Yr Arglwyddes Hobson
Mike a Jean Oglesby
Jonathan Ruffer
Theresa Sackler
Y rhai a anrhydeddwyd yn 2010
Mr Richard Broyd
Mr Anthony d’Offay a Mrs Anne d’Offay
Helen Thorpe
Mr a Mrs David Seligman OBE FRWCMD
(Y Diweddar) Arglwydd Wolfson a’i Deulu
Y rhai a anrhydeddwyd yn 2009
Michael a Dorothy Hintze
Dr Keith Howard
Donald MacDonald CBE a Louise MacDonald
Mrs Mary Weston CBE
Syr John Zochonis
Y rhai a anrhydeddwyd yn 2008
Y Fonesig Vivien Duffield CBE
Roger De Haan CBE
Dr Carol Høgel CBE
Mr Martin a Carmel Naughton
Yr Arglwydd a’r Arglwyddes Sainsbury
Pam mae’n bwysig anrhydeddu ein dyngarwyr diwylliannol?
- Rhoddion gan unigolion yn y celfyddydau yw’r gyfran incwm fwyaf a’r un sy’n tyfu gyflymaf i sefydliadau celfyddydau – gan gyfrannu 55% o gyfanswm buddsoddiadau preifat.
- Mae gofal am roddwyr yn ganolog i unrhyw berthynas barhaus lwyddiannus a chydnabyddiaeth am gymorth yw un ffordd allweddol i sefydliadau celfyddydau ehangu a chynyddu’r gefnogaeth honno.
Ein nod hefyd yw hybu rhoddion newydd trwy amlygu’r ffyrdd niferus y gall unigolion gael effaith ar sefydliadau celfyddydau.