Prosper 2021-22
Codi Arian ar gyfer y dyfodol
Nodau ac amcanion y cynllun
Mae'n bleser gan C&B Cymru gyhoeddi trydedd flwyddyn ei fenter Prosper, diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Garfield Weston Foundation.
Nod y cynllun yw datblygu gallu a sgiliau codi arian sefydliadau celfyddydol ledled Cymru, gan eu cynorthwyo i ddod yn fusnesau elusennol llwyddiannus, ffyniannus.
Gwahoddwyd ceisiadau gan:
- Codwyr arian sydd am ddatblygu ei sgiliau a gwybodaeth er mwyn amrywio incwm ar gyfer eu mudiadau.
- Mudiadau heb staff codi arian penodol sydd am ddatblygu eu gallu i godi arian
Er mwyn sicrhau ei effaith a pherthnasedd, caiff Prosper ei yrru gan anghenion ymgeiswyr a chaiff cefnogaeth ei theilwra yn benodol i bob mudiad, er mwyn gweld yr effaith mwyaf posib i bawb dan sylw.
Gwahoddir i fudiadau celfyddydau wneud cais am gefnogaeth i gael mynediad at arbenigedd a hyfforddiant sy'n helpu cyrraedd targedau cynhyrchu incwm a chyflawni nodau sefydliadol.
Er Enghraifft.…..
Gallai cefnogaeth Prosper gynnwys, ond heb gael ei chyfyngu i:
- Strategaeth Codi Arian. Gall y cyfranogwr gael ei fentora er mwyn creu strategaeth codi arian yn unol â thargedau cynhyrchu incwm o fewn cynllun busnes ei fudiad.
- Nawdd gan Ymddiriedolaeth. Gallai Prosper dalu i reolwr celfyddydol fynychu cwrs hyfforddi arbenigol ac, i ategu hyn, ei baru gyda mentor codi arian sydd ag arbenigedd yn y maes hwn.
- Marchnata Mentrau Codi Arian Newydd. Gallai Prosper ariannu deunyddiau hysbysebol i helpu sefydlu cynllun codi arian newydd a pharu'r cyfranogwr gydag arbenigwr marchnata i'w helpu i greu'r deunydd, yn darparu cyngor ac arweiniad trylwyr.
- Meithrin Darpar Gyfranwyr. Gallai C&B Cymru helpu'r cyfranogwr i gynnal digwyddiad amaethu i arddangos gwaith ei fudiad i ddarpar roddwyr / noddwr, ayb.
- Nawdd Busnes. Gallai'r cyfranogwr gael ei fentora i greu cynigion pwrpasol a derbyn arweiniad ar bartneriaid busnes posib.
- Rhoddion gan Unigolion. Gallai’r cyfranogwr dderbyn cefnogaeth i adnabod a sefydlu'r cynlluniau mwyaf priodol ar gyfer ei fudiad.
- Cyrsiau Hyfforddi. Gallai C&B Cymru gyflwyno Seminar Codi Arian pwrpasol i staff a bwrdd y cyfranogwyr.
Meini Prawf
I wneud cais am gefnogaeth trwy Prosper, mae'n rhaid:
- eich bod chi wedi eich cyflogi gan fudiad celfyddydol sydd wedi’i ymrwymo at ddatblygu ei sgiliau a gallu codi arian;
- eich bod chi’n gallu dangos yn glir sut allai’r cynllun helpu cyrraedd targedau cynhyrchu incwm a chynaladwyedd y mudiad;
- i chi gwblhau ffurflen gais Prosper ar y cyd gyda'ch rheolwr llinell a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr i ymgymryd â'r prosiect arfaethedig;
- eich bod chi wedi eich cyflogi gan fudiad celfyddydol sy'n aelod o C&B Cymru.
Faint y Gallaf Geisio amdano?
Mi fydd y mwyafrif o brosiectau Prosper yn cynnwys cefnogaeth ariannol a mynediad at arbenigedd penodol am ddim. Gall mudiadau wneud cais am rhwng £300 - £3,000 fel elfen ariannol y prosiect.
Sut Mae'n Gweithio
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 4 Mawrth 2022. Mi fydd Prif Weithredwr C&B Cymru yn goruchwylio Prosper a chaiff ceisiadau eu hystyried yn rheolaidd.
Caiff ymgeiswyr llwyddiannus hysbysiad am eu cymeradwyaeth yn gyflym er mwyn sicrhau bod C&B Cymru yn ymateb mewn amser real i ymgeiswyr ac anghenion eu mudiadau. Yn y mwyafrif o achosion, gwahoddir ymgeiswyr i gyfarfod gyda C&B Cymru i helpu llywio’r gefnogaeth i’r prosiect a thrafod y ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau datblygiad sgiliau gwirioneddol.
Caiff pob prosiect a gefnogwyd ei fonitro a'i werthuso’n drylwyr er mwyn mesur llwyddiant ac effaith y cynllun.
Mae'r proses o wneud cais i Prosper fel a ganlyn:
- Cyflwyno’r cynnig llawn i C&B Cymru trwy e-bost (contactus@aandbcymru.org.uk), cyn y dyddiad cau a gyhoeddir.
- Mi fydd C&B Cymru yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cynnig o fewn pythefnos o'i gyflwyno.
- Os ydych yn llwyddiannus, anfonir Llythyr Cynnig yn manylu unrhyw amodau sydd angen eu bodloni cyn y gellir gwneud y taliad. Gall taliad elfen ariannol buddsoddiad Prosper gael ei rannu, yn dibynnu ar natur y prosiect unigol.
Noder:
- Ni all Prosper dalu am gostau staff;
- Bydd C&B Cymru yn adolygu prosiectau fesul achos. Mae cyllid cyfyngedig ar gael gan y cynllun ac mae penderfyniad y Panel Prosper yn derfynol. Nid oes unrhyw broses ar gyfer apelio;
- Rhaid i brosiectau Prosper gael eu cynnal rhwng 1 Ionawr - 1 Medi 2022.
Mae Prosper yn fenter C&B Cymru sy'n bosib diolch i gefnogaeth hael: