Dysgwch am ddyngarwch a rhoddwyr
A ydych eisiau gwybod am sut mae dyngarwch yn gweithio, deall cymhellion rhoddwyr a’r gwahanol ffyrdd y gall rhoddion gael eu gwneud?
Rydym wedi llunio’r rhestr ddiffiniol o ymchwil i ddyngarwch a dealltwriaeth ohono, llawer o’r cyfraniadau gan Arts & Business, i’ch helpu i ddeall y farchnad a beth y gall eich sefydliad ei gyflawni: pwy y dylech ei dargedu, sut i feithrin perthynas a pha negeseuon marchnata i’w defnyddio i ysgogi cefnogaeth.
Ble arall y gallwch chi gael hyd i wybodaeth...
- How donors choose which charities to support, gan Beth Breeze, Prifysgol Caint, sy’n edrych ar sut mae rhoddwyr yn gwneud penderfyniadau
- Charitable giving and fundraising in a digital world, gan ICT Foresight
- UK Giving 2009, gan yr NCVO a CAF; cael deall marchnad gyflawn dyngarwch yn y DU
- Why rich people give, gan Theresa Lloyd, arbenigwraig ar godi arian gan unigolion uchel-eu- gwerth-net
Rhai gwefannau defnyddiol:
- Y Ganolfan er Rhoddi Elusennol a Dyngarwch yw canolfan ymchwil benodedig gyntaf y DU gydag academwyr o bob cwr o’r DU yn cydweithio â’i gilydd
- Mae Philanthropy UK yn cydweithio â dyngarwyr ac yn cynnig canllaw i roddi a chyhoeddiadau eraill os ydych am ddeall rhoddwyr yn well
- Melin drafod yw New Philanthropy Capital i gefnogi elusennau ac annog trafodaeth am beth sy’n gwneud elusen yn effeithiol a sut i fesur ei heffaith
Digwyddiadau
LlunMawMerIauGweSadSul
Newyddion
12 Mai 2022Gwahoddiad: Celfyddydau yn y Senedd!
28 Ebrill 2022Ebrill Bwletin Cyfleoedd
28 Chwefror 2022Ymunwch â'r Tîm!