Prosiectau Eraill
Mae ein hymchwil yn cynnwys ystod eang o faterion sy’n effeithio ar y ffyrdd y mae busnes a diwylliant yn rhyngweithio.
Rhoddi Elusennol
Rydym yn cymharu’r agwedd tuag at ddyngarwch yn y DU, UDA a Chanada – gan ofyn beth gallai’r rhai sy’n codi arian i’r celfyddydau yn y DU ddysgu o brofiad gogledd America.
Pam mae angen y celfyddydau ar fusnes
Dysgwch gan rai o hoelion wyth byd busnes sut maent yn dibynnu ar bartneriaethau diwylliannol i’w rhoi ar y blaen yn fasnachol.
Adroddiad buddsoddi preifat mewn diwylliant 2007/08
Blwyddyn bwysig i fuddsoddi preifat; gweler y tueddiadau a chael gwybod am y farchnad noddi yn y DU, agweddau tuag at ddiwylliant a’r sylw a’r nawdd a roddir iddo gan y cyfryngau.
Buddsoddi preifat mewn diwylliant
Rydym wrthi’n arolygu lefel a ffurf buddsoddi preifat mewn diwylliant ers dros 30 mlynedd – cewch hyd i hen adroddiadau yma.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Mae’r adroddiad yn helpu sefydliadau celfyddydau i ddeall sut y mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn newid agweddau busnes tuag at y celfyddydau. Lawrlwythwch yr adroddiad isod.
Cynhyrchwyd y dogfennau yma gan Arts & Business UK felly maent ar gael yn Saesneg yn unig.