Gwahoddiad: Celfyddydau yn y Senedd!
Cefnogir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Noddir gan Dawn Bowden, AS
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon
Dydd Mercher 22 Mehefin, 6yh - 8yh
Mae’n bleser gennyf eich gwahodd i Gelfyddydau yn y Senedd gyntaf 2022.
Mae’r fenter unigryw hon, sy’n bartneriaeth rhwng C&B Cymru a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yn dod â pherfformiadau byw o ansawdd uchel i ardaloedd cyhoeddus y Senedd.
Bydd y digwyddiad, a fydd yn dechrau am 6pm gyda diodydd a chanapés, yn cynnwys dau berfformiad arbennig. Rhoddir y gyntaf gan y gantores a rapiwr Nesdi Jones, a fydd yn perfformio “stwnsh” o ganeuon pop poblogaidd Bhangra, Bollywood, Cymraeg a phrif ffrwd. Rydym hefyd yn falch y bydd y noson yn cynnwys ymddangosiad gwadd arbennig iawn gan Grumpy Unicorns Theatr Hijinx, a fydd hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Undod yn ystod yr wythnos.
Rwy'n gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn ddigwyddiad pleserus iawn a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gofrestru eich presenoldeb trwy Eventbrite erbyn dydd Llun 6 Mehefin fan bellaf.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio contactus@aandbcymru.org.uk neu ffonio 029 2030 3023.
Gyda phob dymuniad da

Rachel
Prif Weithredwr
Celfyddydau & Busnes Cymru