Ymunwch â Bwrdd C&B Cymru!
Mae C&B Cymru am recriwtio hyd at 2 aelod newydd i ymuno â'r Bwrdd yn gynnar yn 2022. Gwahoddir ceisiadau o uwch unigolion o ledled Cymru gydag un neu fwy o'r sgiliau dilynol:
- Sector Celfyddydol / Elusennol
- Datblygiad Busnes
- Cynllunio Gweithredu Amrywiaeth a Chydraddoldeb
- AD a Chyfraith Cyflogaeth
- Yr Iaith Gymraeg
Wrth recriwtio Ymddiriedolwyr newydd, y blaenoriaeth uchaf fydd gwella amrywiaeth a chynrychiolaeth y Bwrdd. Mae gan yr elusen ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan weithwyr proffesiynol o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig, gan gynnwys cymunedau Roma, Teithwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n anabl, B/byddar a/neu niwroamrywiol.
Mae rhagor o fanylion am C&B Cymru, ynghyd â disgrifiad rôl, wedi’u cynnwys yn ein Pecyn Recriwtio y gellir ei lawrlwytho yma.
I wneud cais i ymuno â'r Bwrdd, anfonwch eich CV a datganiad o ddiddordeb mewn e-bost at Rachel.jones@aandbcymru.org.uk. Cynhelir cyfweliadau anffurfiol yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.