Gwobrau C&B Cymru 2016
Partneriaethau Perffaith
Noddir gan
Cafodd y partneriaethau creadigol gorau rhwng busnes a'r celfyddydau eu cydnabod yn ystod 23ain seremoni Gwobrwyo blynyddol Celfyddydau & Busnes Cymru, a noddir gan Valero, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 14 Mai. Bu’r enillwyr, sy’n amrywio o gefnogwyr unigol i gwmnïau mawr, yn derbyn tlysau a gomisiynwyd yn arbennig gan yr artistiaid Sue Hiley Harris ac Owen Harris. Bu’r actorian Rakie Ayola, Luke Bailey, Di Botcher o Stella, Charles Dale Casualty ar BBC 1 a Suzanne Packer yn cyflwyno’r gwobrau i enillwyr y categorïau ynghyd â’r gantores opera Rebecca Evans, y cyn delynores Frenhinol, Hannah Stone a’r dylunydd sydd wedi troi yn gadwraethwr, Anna Ryder Richardson. Cafodd gwesteion y seremoni tei du eu diddanu gan ddawnswyr A3 a’r pedwarawd aml-dalentog, Stringfever.
Mae'r Gwobrau yn annog, cydnabod ac yn dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector breifat a'r celfyddydau ac yn adlewyrchu’r ystod eang o waith a gyflawni’r gan C&B Cymru ledled y wlad. Mae’r enillwyr yn cynnwys busnesau sy'n amrywio o glwb annibynnol yng nghanol y ddinas i gwmnïau ynni, cymdeithas dai a phrifysgol Gymreig. Roedd gan pob un ohonynt amcanion clir ar gyfer partneru gyda’r celfyddydau – gwella eu brand, targedu marchnad penodol, chwarae rhan gweithredol yn y gymuned neu hyfforddi a datblygu eu staff.
Noddir y categorïau gan sefydliadau allweddol yng Nghymru ac enillwyr eleni yw:
Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand, noddir gan Great Western Railway:
Enillydd: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei bartneriaeth gyda Chanolfan Mileniwm Cymru
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, noddir gan Wales & West Utilities:
Enillydd: United Welsh Housing Association am ei bartneriaeth gyda NoFit State Circus
Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifanc, noddir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd:
Enillydd: Scottish Power Foundation am ei nawdd o’r Elusen Aloud a Theatr Clwyd
Celfyddydau a Busnes Bach, noddir gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality:
Enillydd: Clwb Ifor Bach am ei nawdd o Tafwyl
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, noddir gan Western Power Distribution:
Enillydd: Cartrefi Conwy am ei bartneriaeth gydag Oriel Colwyn
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a The Waterloo Foundation:
Enillydd: Jones Bros am ei nawdd o Ganolfan Grefft Rhuthun
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, noddir gan Cartrefi Conwy:
Enillydd: Western Power Distribution am ei bartneriaeth gyda Hijinx
Ymgynghorydd y Flwyddyn Eversheds:
Enillydd: Jeremy Jones, Fulcrum Direct Ltd am ei gyfraniad i’r grŵp ddawns cymunedol, TAN
Busnes y Flwyddyn Admiral:
Enillydd: Cartrefi Conwy am ei bartneriaethau gyda Jan Gardner, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Paul Sampson ac Oriel Colwyn
Gwobr Celfyddydau Hospital Innovations:
Enillydd: Hijinx am ei bartneriaeth ragorol gyda Western Power Distribution
Cyflwynwyd y Wobr Dyngarwch arbennig i David Seligman OBE a’i ddiweddar wraig Philippa am eu cefnogaeth hael personol o lawer o sefydliadau celfyddydol blaenllaw ledled Caerdydd.
Dewisir enillwyr y gwobrau gan banel annibynnol o feirniaid sydd gydag arbenigedd mewn ffurfiau celf ymarferol, nawdd ac amcanion y sector breifat. Y rhain yw: Geoff Barber, Cymdeithas Adeiladu'r Principality; Mary Czulowski, Prif Weithredwr, Britwind Ltd; Chris Frost, cyd-berchennog manorhaus, Llangollen a Rhuthun; Gareth I Jones, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu, Canolfan Arloesi Menter Cymru; Eilir Owen Griffiths, Cyfansoddwr, darlithydd a chyfarwyddwr cerdd; Cathy Owens, Cyfarwyddwr, Deryn, a Ted Sangster, Cadeirydd, Canolfan Darwin ac Oriel Waterfront.
Prif noddwr y Gwobrau oedd cwmni ynni rhyngwladol Valero, sydd yn cefnogi'r seremoni am y 7fed flwyddyn. Dywedodd Rheolwr Materion Cyhoeddus y Purfa:
“Mae Cymru yn mwynhau enw da byd-eang am greadigrwydd a diwylliant. Caiff yr enw da yma ei danategu gan gydweithrediad cryf rhwng y celfyddydau a’r byd busnes. Wrth wraidd yr ymdrechion hyn yw Celfyddydau & Busnes Cymru, sefydliad sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi datblygiad cysylltiadau rhwng sefydliadau celfyddydol a'r sector preifat yng Nghymru. Mae Purfa Penfro Valero eto yn hynod o falch o allu cefnogi Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru fel prif noddwr, ac yn dathlu'r partneriaethau cyfoethog a chyffrous rhwng y celfyddydau a busnes yng Nghymru sydd o fudd i bob rhan o'r gymuned.”
Mae Gwobrau C&B Cymru hefyd yn elwa o gefnogaeth mewn nwyddau pybyr gan ystod o fusnesau a leolir yng Nghymru, gan gynnwys Ancre Hill Estates, Carrick Creative, Celtic Spirit, Flightlink, Flower Lodge, Flybe, Freshwater, Fruitapeel, Gemwaith Mari Thomas, Intercity Removals, Llanllyr Source, Maes Awyr Caerdydd a Park Plaza, Caerdydd. Partner cyfryngau y seremoni yw Orchard Events.
Am wybodaeth pellach ynglyn a'r Gwobrau, cysylltwch gyda contactus@aandbcymru.org.uk
Gwelwch yr holl newyddion