26 Tachwedd 2015yn ôl

Oriel A&B

Menter Celfyddydau & Busnes Cymru, mae Oriel A&B yn oriel gelf dros dro ym Mae Caerdydd.

Ymunwch â ni ar gyfer derbyniad arbennig o 5.00yh – 7.00yh ar ddydd Mercher 2 Rhagfyr.  

Mae'r arddangosfa, a guradwyd gan C&B Cymru, yn arddangosfa unigryw o waith tri artist cyffrous.

Bydd pedwar o brintiau gan yr artist Cymreig o fri Ogwyn Davies ar werth. Mae Ogwyn yn ddioddef o Glefyd Parkinson a ni all ysgrifennu mwyach. Mae wedi defnyddio ei fawd fel llofnod ar y printiau cyfyngedig a bydd cyfraniad o bob gwerthiant yn cael ei wneud i Parkinson’s Cymru.

          

 

Bydd mab Ogwyn, yr artist Huw Tregaron yn arddangos cyfres o baentiadau a serameg sydd yn y bôn yn gysylltiedig at ei ymdeimlad o le.

Mae paentiadau olew Kate Richardson yn ymdoddi delweddau eiconig o’r cyfres deledu boblogaidd Doctor Who gyda gwaith gan yr artist 19eg ganrif Adolphe Bouguereau.

               


 

Mae mynediad am ddim ond bydd rhaid archebu lle. Os ydych yn gallu ymuno â ni ar gyfer y dathliad hwn,  e-bostiwchcontactus@aandbcymru.org.uk neu ffoniwch 029 2030 3023 yn eich hwylustod cynharaf.  Lleolir Oriel A&B yn Uned 21 o Gei’r Fôr-forwyn, gyferbyn y bar tapas La Cha Cha a The Glee Club.

 

Gwelwch yr holl newyddion