Cyhoeddir Rhaglen Interniaethau Creadigol 2021-22
Ariennier gan Moondance Foundation
Mae C&B Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd y ei Rhaglen Interniaethau Creadigol hynod lwyddiannus yn rhedeg am 9fed flwyddyn o Hydref 2021.
Bydd y cynllun arloesol, sy'n gosod graddedigion diweddar i mewn i sefydliadau celfyddydol fel codwyr arian dan hyfforddiant, unwaith eto yn gweithredu ledled Cymru. Hyd yn hyn, mae 24 o raddedigion sydd wedi cwblhau lleoliadau bellach yn godwyr arian proffesiynol ac mae 5 intern arall yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd.
Oherwydd lleihad yng nghyllid gan y sector cyhoeddus, ac effeithiau'r pandemig byd-eang, mae sefydliadau celfyddydol yn wynebu cryn bwysau i arallgyfeirio eu hincwm. Mae Cymru wastad wedi dioddef gan ddiffyg gweithwyr proffesiynol profiadol yn yr ardal hon ac mae C&B Cymru o'r farn mai'r unig ffordd i fynd i'r afael â'r broblem yn y tymor hir yw denu graddedigion newydd i yrfa mewn codi arian.
Yn 2021-22, bydd y Rhaglen Interniaethau Creadigol yn cynnwys dwy linyn:
Llinyn 1:
Bydd graddedigion diweddar o brifysgolion partner* C&B Cymru yn cael eu gosod ar interniaethau llawn-amser neu rhan-amser am 10 mis gyda sefydliadau celfyddydol sydd ag adran codi arian sefydlog.
Llinyn 2:
Bydd interniaid sydd wedi cwblhau lleoliadau Llinyn 1 yn llwyddiannus ond heb sicrhau rolau codi arian yn cael eu gosod mewn sefydliadau celfyddydol heb adran ddatblygu bwrpasol llawn-amser. Mae interniaethau Llinyn 2 yn rhan-amser, gydag interniaid yn treulio 21 awr yr wythnos gyda'u sefydliad sy’n lletya.
Ymgeisiwch i fod yn Intern Creadigol
Gwahoddir ceisiadau gan raddedigion diweddar o’n prifysgolion partner* sy'n dymuno cymryd rhan yng nghynllun 2021-22.
Bydd pob intern yn:
- ymgymryd â lleoliad llawn/rhan-amser cyflogedig am 10 mis gyda sefydliad celfyddydol nid-er-elw.
- derbyn Cyflog Byw pro-rata o £18,525.
- derbyn mentora gan godwr arian uwch ac arweinydd busnes.
- cael mynediad yn rhad ac am ddim i fynychu cyrsiau hyfforddi C&B Cymru.
- cael gwahoddiad i fynychu digwyddiadau rhwydweithio C&B Cymru, yn rhad ac am ddim.
- derbyn profiad rheoli digwyddiadau uniongyrchol trwy helpu i gyflwyno digwyddiadau C&B Cymru.
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld mewn dwy rownd trwy Zoom / MS Teams. Os ydych wedi graddio’n ddiweddar o un o brifysgolion partner* C&B Cymru ac mae gennych ddiddordeb mewn ceisio am interniaeth, cliciwch yma i lawrlwytho pecyn cais. Dychwelwch at contactus@aandbcymru.org.uk erbyn 5.00yp, dydd Llun 7 Gorffennaf 2021 fan bellaf
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac oddi wrth unigolion waeth beth fo'u hil, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, oed, rhyw, neu anabledd.
Ymgeisiwch i fod yn Sefydliad Celfyddydol Lletyol
Yn 2021-22, bydd y Rhaglen Interniaethau Creadigol yn cynnwys dwy linyn:
Llinyn 1
Os yw’ch sefydliad yn cyflogi o leiaf un codwr arian profiadol llawn-amser, rydych yn gymwys i wneud cais ar gyfer Llinyn 1.
Bydd pob intern yn:
- ymgymryd â lleoliad llawn/rhan-amser cyflogedig am 10 mis gyda sefydliad celfyddydol nid-er-elw.
- derbyn mentora gan godwr arian uwch ac arweinydd busnes.
- cael mynediad yn rhad ac am ddim i fynychu cyrsiau hyfforddi C&B Cymru.
- cael gwahoddiad i fynychu digwyddiadau rhwydweithio C&B Cymru, yn rhad ac am ddim.
- derbyn profiad rheoli digwyddiadau uniongyrchol trwy helpu i gyflwyno digwyddiadau C&B Cymru.
- derbyn Cyflog Byw pro-rata o £18,525. Bydd C&B Cymru yn darparu hyd at 80% o’r swm hwn. Disgwylir i’r sefydliadau sy’n lletya i gyfrannu y swm sy’n weddill yn ogystal â thalu Yswiriant Gwladol ac unrhyw gyfraniad pensiwn angenrheidiol.
Cliciwch yma i wneud cais i fod yn sefydliad sy’n lletya Llinyn 1.
Llinyn 2
Os yw'ch sefydliad yn cyflogi llai nag un codwr arian amser llawn, rydych chi'n gymwys i wneud cais am Llinyn 2.
Bydd pob intern yn:
- ymgymryd â lleoliad rhan-amser (21 awr yr wythnos) cyflogedig am 10 mis gyda sefydliad celfyddydol nid-er-elw.
- derbyn Cyflog Byw pro-rata o £18,525. Bydd C&B Cymru yn darparu hyd at 80% o’r swm hwn. Disgwylir i’r sefydliadau sy’n lletya i gyfrannu y swm sy’n weddill yn ogystal â thalu Yswiriant Gwladol ac unrhyw gyfraniad pensiwn angenrheidiol.
- derbyn mentora gan godwr arian uwch ac arweinydd busnes.
- cael mynediad yn rhad ac am ddim i fynychu cyrsiau hyfforddi C&B Cymru.
- cael gwahoddiad i fynychu digwyddiadau rhwydweithio C&B Cymru, yn rhad ac am ddim.
- derbyn profiad rheoli digwyddiadau uniongyrchol trwy helpu i gyflwyno digwyddiadau C&B Cymru.
Cliciwch yma i wneud cais i fod yn sefydliad sy’n lletya Llinyn 2.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, peidiwch ag oedi i gysylltu â contactus@aandbcymru.org.uk neu ffonio 029 2030 3023.
Dychwelwch geisiadau at contactus@aandbcymru.org.uk erbyn 5.00yp, dydd Gwener 7 Gorffennaf 2021 fan bellaf
Amserlen
Dyddiad |
Gweithgaredd |
7 Gorffennaf 2021 |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Interniaid |
7 Gorffennaf 2021 |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau sefydliad celfyddydau sy’n lletya |
w/c 12 Gorffennaf 2021 |
Cyfweliadau –ymgeiswyr ar y rhestr fer |
w/c 26 Gorffennaf 2021 |
Cyfarfodydd cyfatebu – ymgeiswyr ar y rhestr fer a sefydliadau celfyddydol potensial |
Diwedd mis Hydref 2021 Dechrau mis Tachwedd 2021 |
Hyfforddiant a chynefino – interniaid newydd
Lleoliadau yn cychwyn |
*Prifysgolion partner: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd#