Gwobrau C&B Cymru 2016
Noddir gan
Partneriaethau Perffaith
Cafodd y partneriaethau creadigol gorau rhwng busnes a'r celfyddydau eu cydnabod yn ystod 23ain seremoni Gwobrwyo blynyddol Celfyddydau & Busnes Cymru, a noddir gan Valero, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 14 Mai. Bu’r enillwyr, sy’n amrywio o gefnogwyr unigol i gwmnïau mawr, yn derbyn tlysau a gomisiynwyd yn arbennig gan yr artistiaid Sue Hiley Harris ac Owen Harris. Bu’r actorian Rakie Ayola, Luke Bailey, Di Botcher o Stella, Charles Dale Casualty ar BBC 1 a Suzanne Packer yn cyflwyno’r gwobrau i enillwyr y categorïau ynghyd â’r gantores opera Rebecca Evans, y cyn delynores Frenhinol, Hannah Stone a’r dylunydd sydd wedi troi yn gadwraethwr, Anna Ryder Richardson. Cafodd gwesteion y seremoni tei du eu diddanu gan ddawnswyr A3 a’r pedwarawd aml-dalentog, Stringfever.
Mae'r Gwobrau yn annog, cydnabod ac yn dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector breifat a'r celfyddydau ac yn adlewyrchu’r ystod eang o waith a gyflawni’r gan C&B Cymru ledled y wlad. Mae’r enillwyr yn cynnwys busnesau sy'n amrywio o glwb annibynnol yng nghanol y ddinas i gwmnïau ynni, cymdeithas dai a phrifysgol Gymreig. Roedd gan pob un ohonynt amcanion clir ar gyfer partneru gyda’r celfyddydau – gwella eu brand, targedu marchnad penodol, chwarae rhan gweithredol yn y gymuned neu hyfforddi a datblygu eu staff.
Gellir gweld manylion llawn am yr holl enillwyr a'r rheini yn y rownd derfynol ar hyd ochr chwith y dudalen.
Dewisir enillwyr y gwobrau gan banel annibynnol o feirniaid sydd gydag arbenigedd mewn ffurfiau celf ymarferol, nawdd ac amcanion y sector breifat. Y rhain yw: Geoff Barber, Cymdeithas Adeiladu'r Principality; Mary Czulowski, Prif Weithredwr, Britwind Ltd; Chris Frost, cyd-berchennog manorhaus, Llangollen a Rhuthun; Gareth I Jones, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu, Canolfan Arloesi Menter Cymru; Eilir Owen Griffiths, Cyfansoddwr, darlithydd a chyfarwyddwr cerdd; Cathy Owens, Cyfarwyddwr, Deryn, a Ted Sangster, Cadeirydd, Canolfan Darwin ac Oriel Waterfront.
Dywedodd Prif Weithredwr C&B Cymru, Rachel Jones:
“Mae'r ystod o bartneriaethau a enwebwyd eleni yn adlewyrchu cefnogaeth gref y sector preifat o’r celfyddydau ledled Cymru mewn prosiectau sy'n cyflawni amcanion busnes go iawn. Unwaith eto eleni, cawsom ein synnu gan y gwaith ysbrydoledig y mae’r ddau sector yn ei gyflawni gyda'i gilydd. Mae’r gwobrau blynyddol yn gyfle i ddathlu’r gwaith rhagorol rhwng busnes a'r celfyddydau ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr, hen a newydd. Mae tîm Celfyddydau & Busnes Cymru yng Ngogledd a De Cymru yn falch o weithio gyda gymaint o bartneriaid ymroddedig ac yn llongyfarch yr holl enillwyr ac enwebeion."
Prif noddwr y Gwobrau oedd cwmni ynni rhyngwladol Valero, sydd yn cefnogi'r seremoni am y 7fed flwyddyn. Dywedodd Rheolwr Materion Cyhoeddus y Purfa:
“Mae Cymru yn mwynhau enw da byd-eang am greadigrwydd a diwylliant. Caiff yr enw da yma ei danategu gan gydweithrediad cryf rhwng y celfyddydau a’r byd busnes. Wrth wraidd yr ymdrechion hyn yw Celfyddydau & Busnes Cymru, sefydliad sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi datblygiad cysylltiadau rhwng sefydliadau celfyddydol a'r sector preifat yng Nghymru. Mae Purfa Penfro Valero eto yn hynod o falch o allu cefnogi Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru fel prif noddwr, ac yn dathlu'r partneriaethau cyfoethog a chyffrous rhwng y celfyddydau a busnes yng Nghymru sydd o fudd i bob rhan o'r gymuned.”
Mae Gwobrau C&B Cymru hefyd yn elwa o gefnogaeth mewn nwyddau pybyr gan ystod o fusnesau a leolir yng Nghymru, gan gynnwys Ancre Hill Estates, Carrick Creative, Celtic Spirit, Flightlink, Flower Lodge, Flybe, Freshwater, Fruitapeel, Gemwaith Mari Thomas, Intercity Removals, Llanllyr Source, Maes Awyr Caerdydd a Park Plaza, Caerdydd. Partner cyfryngau y seremoni yw Orchard Events.
Am wybodaeth pellach ynglyn a'r Gwobrau, cysylltwch gyda contactus@aandbcymru.org.uk
Noddwyr Gwobrau C&B Cymru 2016
Prif Noddwr
Categorïau
![]() |
|
![]() |
|
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Partner Cyfryngau
Partneriaid y Digwyddiad
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |