Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2015
Noddir gan
Cafodd y partneriaethau creadigol gorau rhwng busnes a'r celfyddydau eu cydnabod yn ystod 22ain seremoni Gwobrwyo blynyddol Celfyddydau & Busnes Cymru, a noddir gan Valero, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 1 Gorffennaf. Bu’r enillwyr, sy’n amrywio o gefnogwyr unigol i gwmnïau mawr, yn derbyn tlysau a gomisiynwyd yn arbennig gan gerflunydd a leolir yn Ne Cymru, Sara Myers. Bu’r perfformwyr Cymreig enwog Sian Phillips, Hannah Daniel, Mark Lewis Jones, Sunetra Sarker o Casualty, Julian Lewis Jones a Richard Mylan yn ymuno a’r cantorion Rebecca Evans a Sophie Evans a’r dylunwyr David Emanuel ac Anna Ryder Richardson, i gyflwyno'r gwobrau yn ystod y seremoni tei du llawn. Cafodd yr enillwyr a’r gwesteion eu diddanu gan ddawnswyr o Jukebox Collective a chyn aelodau o’r côr poblogaidd, Only Boys Aloud, diolch i nawdd gan Waterstone Homes.
Mae'r Gwobrau yn annog, cydnabod ac yn dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector breifat a'r celfyddydau ac yn adlewyrchu’r ystod eang o waith a gyflawni’r gan C&B Cymru ledled y wlad. Mae’r enillwyr yn cynnwys busnesau sy'n amrywio o far annibynnol yng nghanol y ddinas i gewri ynni rhyngwladol. Roedd gan pob un ohonynt amcanion clir ar gyfer partneru gyda’r celfyddydau – gwella eu brand, targedu marchnad penodol, chwarae rhan gweithredol yn y gymuned neu hyfforddi a datblygu eu staff.
Mae’r categorïau yn cael eu noddi gan sefydliadau allweddol yng Nghymru ac enillwyr eleni yw:
Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand, noddir gan Rightacres Property:
Enillydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality am ei bartneriaeth gydag Elusen Aloud.
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, noddir gan Wales & West Utilities:
Enillydd Valero am ei bartneriaeth gyda Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r VC Gallery.
Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifanc, noddir gan First Great Western:
Enillydd Dragon LNG am ei nawdd o Theatr Torch.
Celfyddydau a Busnes Bach, noddir gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality:
Enillydd Porter’s Caerdydd am ei nawdd o The Other Room
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, noddir gan Western Power Distribution:
Enillydd Pendine Park Care Organistion am ei bartneriaeth gyda Halle Orchestra, Eisteddfod Gerddoriaeth Rhyngwladol Llangollen a Gŵyl Gerddoriaeth Rhyngwladol Gogledd Cymru.
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan Tidal Lagoon Power & Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
Enillydd Coastal Housing Group am ei nawdd o Gwmni Theatr Volcano.
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, noddir gan Cartrefi Conwy:
Enillydd Phoenix Optical Technologies Ltd am ei bartneriaeth gyda’r artist gwydr, Rhian Hâf.
Ymgynghorydd Busnes y Flwyddyn, noddir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd:
Enillydd Geoff Barber, Cwmni Adeiladu’r Principality am ei gyfraniad i Beyond the Border Storytelling Festival.
Busnes y Flwyddyn Admiral:
Enillydd Pendine Park Care Organisation am ei bartneriaeth gyda Halle Orchestra, Eisteddfod Gerddoriaeth Rhyngwladol Llangollen a Gŵyl Gerddoriaeth Rhyngwladol Gogledd Cymru.
Gwobr Celfyddydau Hospital Innovations:
Enillydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am y ffordd rhagorol mae'n gweithio gyda'u bartneriaid busnes – Brewin Dolphin, Catering Academy, Liberty Living, Wales & West Utilities a Valero.
Cyflwynwyd y Wobr Dyngarwch arbennig i Henry a Diane Engelhardt am eu cefnogaeth hael personol o’r celfyddydau ledled Cymru.
Cafodd enillwyr y gwobrau eu dewis gan banel annibynnol o feirniaid sydd gydag arbenigedd mewn ffurfiau celf ymarferol, nawdd ac amcanion y sector breifat. Y rhain yw: David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; Gareth Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr Artistig, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Paul Ralley, Uwch Reolwr Archwilio Mewnol, Legal & General; Kath Roberts, Uwch Bartner, Eversheds, Caerdydd; Gill Sandford, Deon Cyfadran y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru; Kay Walters, Cyfarwyddwr, ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol Pobl a Jenny Whitham, Rheolwr Gyfarwyddwr, Patchwork Pate.
Dywedodd Prif Weithredwr C&B Cymru, Rachel Jones:
"Mae'r amrywiaeth o bartneriaethau a enwebwyd eleni yn helaeth ac yn adlewyrchu’r gefnogaeth gref o’r celfyddydau ledled Cymru gan y sector preifat, mewn prosiectau sy'n cyflawni amcanion busnes cryf. Eleni rydym yn hynod o falch o gyflwyno categori newydd - Celfyddydau, Busnes ac Iechyd - a chawsant ein syfrdanu gan y partneriaethau ysbrydoledig a enwebwyd. Mae'r gwobrau blynyddol yn gyfle i ddathlu’r gwaith rhagorol rhwng busnes a'r celfyddydau ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr, hen a newydd. Mae tîm Celfyddydau & Busnes Cymru yng Ngogledd a De Cymru yn falch o weithio gyda gymaint o bartneriaid ymroddedig ac yn llongyfarch yr holl enillwyr ac enwebwyr."
Prif noddwr y Gwobrau 'oedd cwmni ynni rhyngwladol Valero, sydd yn cefnogi'r seremoni am y 6ed flwyddyn. Dywedodd y Rheolwr Materion Cyhoeddus:
"Seremoni Gwobrwyo Celfyddyau & Busnes yw uchafbwynt calendr diwylliannol Cymru, gan ddathlu'r cysylltiadau diddorol rhwng sefydliadau celfyddydol a'r sector preifat yng Nghymru. Unwaith eto mae Purfa Valero ym Mhenfro yn hynod o falch i fod yn brif noddwr y gwobrau eleni, a’r cydnabyddiaeth mae'n rhoi i'r berthynas fuddiol rhwng busnesau a'r diwydiant creadigol.”
Mae Gwobrau C&B Cymru hefyd yn elwa o gefnogaeth mewn nwyddau brwd gan ystod o fusnesau a leolir yng Nghymru, gan gynnwys A to B Removals, Ancre Hill Estates, Carrick Creative, Celtic Spirit, Flightlink, Flower Lodge, Freshwater, Fruitapeel, John Lewis Caerdydd, Kuoni, Llanllyr Source, Park Plaza, Caerdydd a Shangri-La Hotels & Resorts. Partner cyfryngau y seremoni yw Orchard Events.
Am wybodaeth pellach ynglyn a'r Gwobrau, cysylltwch gyda contactus@aandbcymru.org.uk.
Noddwyr Categorïau 2015:
![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Partner Cyfryngau 2015:
Noddwr Adloniant 2015:
Partneriaid y Digwyddiad 2015:
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|