Canmol Partneriaeth Berffaith
Cafodd y partneriaethau creadigol gorau rhwng busnes a’r celfyddydau eu cydnabod yn yr 21ain seremoni Gwobrau blynyddol Celfyddydau & Busnes Cymru, a noddwyd gan Valero, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 9 Mai. Derbyniodd yr enillwyr, a amrywiai o gefnogwyr unigol i gwmnïau mawr, dlysau a gomisiynwyd yn arbennig oddi wrth yr artist gwydr o Gaerdydd, Jane Beebe. Bu perfformwyr Cymreig o fri, gan gynnwys Tom Cullen o Downton Abbey, Caroline Berry o Coronation Street, Suzanne Packer a Lee Mead o Casualty a’r seren o gantor, Rhydian Roberts, yn cyflwyno’r gwobrau mewn seremoni tei du lle’r oedd pob tocyn wedi’i werthu. Darparwyd adloniant i’r enillwyr a gwesteion gan NoFit State Circus a’r pedwarawd llinynnol Graffiti Classics, diolch i nawdd gan Waterstone Homes.
Mae’r Gwobrau’n hybu, yn cydnabod ac yn dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau gan adlewyrchu sbectrwm eang y gwaith a wneir gan C&B Cymru ledled y wlad. Roedd yr enillwyr yn cynnwys busnesau’n amrywio o ficro-fragdy o Gogledd Cymru i gwmnïau rhyngwladol. Roedd amcanion clir a phendant gan bob un wrth fynd ati i ffurfio partneriaeth â’r celfyddydau – gwella ei frand, cyrraedd marchnad darged benodol, chwarae rhan weithredol yn y gymuned neu hyfforddi a datblygu’i staff.
Noddwyd y categorïau gan sefydliadau Cymreig allweddol, a’r enillwyr eleni yw:
Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand, a noddir gan Arup:
Enillydd Y Cwmni Wisgi Cymreig, Penderyn, am ei bartneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, a noddir gan Wales & West Utilities:
Enillydd Merthyr Valleys Homes am ei bartneriaeth â Llenyddiaeth Cymru.
Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifainc, a noddir gan Hospital Innovations:
Enillydd Sony UK Technology Centre am noddi It’s My Shout Productions.
Celfyddydau a Busnesau Bach, a noddir gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality:
Enillydd Bragdy’r Gogarth am noddi Gŵyl Ymuno
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, a noddir gan West Coast Energy:
Enillydd Renault Cardiff am ei bartneriaeth â Chapter.
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, a noddir gan Cartrefi Conwy:
Enillydd Wales & West Utilities am ei bartneriaeth â Act Now Creative Training.
Celfyddydau, Busnes a Chymorth Hirdymor, a noddir gan SRK Consulting:
Enillydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality am ei nawdd 35 mlynedd i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Cynghorydd Busnes y Flwyddyn, a noddir gan Brifysgol De Cymru:
Enillydd Kay Walters, Pobol am ei chyfraniad i Artis Community.
Gwobr Busnes y Flwyddyn Admiral:
Enillydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality am ei bartneriaethau a’r Elusen Aloud a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Gwobr Celfyddydau Legal & General:
Enillydd Chapter am y ffordd neilltuol mae’n cydweithio â’i phartneriaid busnes – Admiral, Legal & General, Renault Cardiffa Richer Sounds.
Rhoddwyd y Wobr Ddyngarwch arbennig i’r Teulu Gingell am eu cefnogaeth bersonol hael i oriel g39, sydd â’i chartref yng Nghaerdydd.
Dewiswyd enillwyr y wobr gan banel beirniaid annibynnol sydd ag arbenigedd mewn ffurfiau ymarferol ar gelf, nawdd a nodau’r sector preifat – sef yr artist o Gogledd Cymru, Cefyn Burgess, y ddarlledwraig brofiadol Beti George, Rheolwr Gyfarwyddwr Spindogs, Liam Giles, Pennaeth Cyfathrebu Prifysgol Cymru, Shone Hughes, Cyfarwyddwr Grŵp Cwmnïau Tesni, Paula Jewson a chyn-Reolwr Gweithrediadau Legal & General Mary Sinclair Porter.
Mae Gwobrau C&B Cymru’n elwa ar gefnogaeth gadarn mewn nwyddau gan amrywiaeth o fusnesau o Gymru, gan gynnwys Carrick Creative, Celtic Spirit, Flightlink, Flower Lodge,Fruitapeel, John Lewis Cardiff, Kuoni, Llanllyr Source, Park Plaza, Cardiff a Shangri-La Hotels & Resorts. Am y flwyddyn gyntaf, partner cyfryngol y seremoni oedd Orchard Events.