Gwobr Ymgynghorydd Grant Stephens Family Law
Gwobr Ymgynghorydd Grant Stephens Family Law
William Thomas a Joanne Taylor, MHA Broomfield Alexander
Llun gan Glenn Edwards
Uwch rheolwr yng nghwmni cyfrifeg MHA Broomfield Alexander, mae Jo yn arbenigo yn y sector elusennol ac nid er elw. Er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o sefydliadau elusennol, ymunodd Jo â Bwrdd Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) pedair blynedd yn ôl, ac ers hynny wedi dod yn Drysorydd y sefydliad. Arweiniodd Jo CAC drwy newidiadau cymhleth yn ei statws elusennol ac mae hi’n allweddol mewn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’r holl reoliadau cyfredol. Mae ei chyfraniad i gynllunio busnes ac ariannol wedi bod yn amhrisiadwy i staff CAC sy’n credu ei bod hi’n ymddiriedolwr ragorol. Roedd helpu i recriwtio Swyddog a Chyfarwyddydd Cyllid newydd yn rhoi profiad ymarferol o adnoddau dynol i Jo ac mae ei gwaith gyda CAC wedi bwydo i’w bywyd proffesiynol yn uniongyrchol. Teimlodd y beirniaid fod buddsoddiad Jo o ran amser ac arbenigedd yn dangos ei hymroddiad eithriadol i’r sefydliad celfyddydol ac yn ei gwneud yn enillydd clir yn y categori hwn.
Yn y Rownd Derfynol
Hoodi Ansari, Confused.com
Mae Hoodi yn raddedig mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ac yn gweithio fel Dadansoddwr Gwybodaeth Busnes i Confused.com. Cafodd ei leoli ar Fwrdd g39, oriel a sefydliad celfyddydol cyfoes yng Nghaerdydd a arweinir gan artistiaid. Mae Hoodi wedi dod â mewnwelediad unigryw i’r sefydliad trwy ei sgiliau dadansoddol a’i arbenigedd mewn strategaeth fusnes sydd wedi hybu hyder g39 yn ei dyfodol. Ar adeg o newid trefniadol, cytunodd Hoodi i ddod yn Gadeirydd y Bwrdd ac mae wedi cael effaith sylweddol ar ymarferoldeb, sefydlogrwydd a pherfformiad y sefydliad.
Roy Jones, MBE, ScottishPower
Mae Rheolwr Cyswllt Cymunedol ScottishPower Roy yn dod â’i brofiad sylweddol o weithio gyda sefydliadau celfyddydol i Bwyllgor Gogledd Cymru Cerdd â Gofal Cymru. Mae ei wybodaeth a rhwydweithiau eang, cyngor busnes arbenigol ac eiriolaeth rymus wedi cael effaith sylweddol ar yr elusen dros y ddwy flynedd diwethaf. Gwnaeth brwdfrydedd ac ymrwymiad Roy argraff arbennig ar y beirniaid ac roeddent am ei gymeradwyo am ei gyfraniad arbennig i’r celfyddydau.
Digwyddiadau
LlunMawMerIauGweSadSul
12345678910111213141516171819202122232425262728293031
Newyddion
15 Gorffennaf 2022Galwad am Berfformwyr - Lansiad 28ain Gwobrau C&B Cymru
14 Gorffennaf 202228ain Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2023 - Comisiwn
12 Mai 2022Gwahoddiad: Celfyddydau yn y Senedd!