Cwrdd â'r Interniaid 2017/18
Eleanor Prescott a BAFTA Cymru a Sinfonia Cymru
Ar ôl treulio blwyddyn gyntaf ei hinterniaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae Eleanor wedi ennill profiad ymarferol gan weithio gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau, partneriaethau corfforaethol a rhoddion gan unigolion. Bellach mae hi'n ymgymryd â dau leoliad rhan amser fel Intern Llinyn 2.
Gan weithio gyda BAFTA Cymru, bydd Eleanor yn canolbwyntio ar nawdd a Chylch Academi BAFTA. Bydd hefyd yn ymwneud yn helaeth â threfniadaeth Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, 2017 a 2018.
Gan weithio gyda Sinfonia Cymru, bydd Eleanor yn canolbwyntio ar gynhyrchu incwm trwy geisiadau ymddiriedolaeth, gan reoli perthnasoedd â noddwyr presennol a photensial ac adolygu'r cynllun Cyfeillion presennol.
Maddie Towell a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Fel graddedig Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, mae Maddie yn deall pa mor hanfodol yw codi arian celfyddydol yng Nghymru. Bydd hi'n gwario ei hamser yn y Coleg yn canolbwyntio ar roddion gan unigolion, gan weithio i gynyddu aelodaeth Cyswllt, yn ogystal â rheoli stiwardiaethau rhoddwyr a chynllunio digwyddiadau codi arian.
Sioned Young a Pontio
Wedi graddio mewn Astudiaethau Creadigol o Brifysgol Bangor yn ddiweddar, mae Sioned yn gyffrous i gael ei hosod â sefydliad sy'n agos at ei chalon. Bydd Sioned yn canolbwyntio ar gynnig mawr i sylfaen, yn ogystal â chreu pecynnau nawdd ac edrych ar ffyrdd i annog cynulleidfaoedd i roi trwy system rheoli data Pontio.
John Dawson a Theatr Hijinx
Wedi graddio yn 2017 o gwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae gan John frwdfrydedd dros y celfyddydau perfformio ac mae'n falch iawn o fod yn ymuno â Hijinx. Ei ffocws ar gyfer y 10 mis nesaf fydd ymchwilio i ymddiriedolaethau, gwneud cysylltiadau â darpar noddwyr a hyrwyddo Asiantaeth Castio Hijinx newydd i fusnesau a sefydliadau celfyddydol.
Lucy Purrington a Theatr y Sherman
Ar ôl graddio mewn Celfyddydau Ffotograffig o Brifysgol De Cymru, mae Lucy yn awyddus i ddefnyddio ei phrofiadau nid yn unig i gyfrannu at economi Cymru ond hefyd i sicrhau bod cyfleoedd yn parhau i fod ar gael i artistiaid sy'n dod i'r amlwg a sefydliadau mwy sefydledig. Tra yn y Sherman, bydd Lucy yn canolbwyntio ar rhoddion gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau ac yn harneisio cefnogaeth gan y gymuned fusnes leol.